Skip to main content

Close version selection window
UKIrelandUSACanadaÖsterreichAustraliaNew ZealandHong KongSverigeNederlandsBelgië / BelgiqueDeutschlanddie Schweiz / SuisseFranceItaliaEspañaMexicoChileArgentinaBrasilPortugalPolskaDanmarkSuomiNorge

Main navigation



You are here:-




Cymraeg

To read this page in English click here

Cyflwyno Gwyneth; Llais Cymraeg Newydd BrowseAloud

Mae'n bleser gan Texthelp gyhoeddi lansio Gwyneth; sef llais Cymraeg newydd BrowseAloud. Mae gan y llais unigryw hwn sŵn naturiol o ansawdd uchel sy'n ychwanegiad cyffrous i'r nifer gynyddol o leisiau rhanbarthol ac ieithoedd rhyngwladol sydd ar gael gan BrowseAloud.

Gwrando ar Gwyneth

Arf cymorth darllen Texthelp yw BrowseAloud, a ddyluniwyd i wneud gwefannau'n haws i 20% o boblogaeth y Deyrnas Unedig droi atynt. Mae hyn yn cynnwys y sawl a chanddynt:

- Anableddau Print
- Anableddau Gwybyddol
- Dyslecsia
- Anawsterau Llythrennedd
- Namau Ysgafn ar y Golwg
- Saesneg neu'r Gymraeg fel Ail Iaith

Mae BrowseAloud yn gweithio trwy ddarllen cynnwys gwefannau ar goedd mewn llais sy'n swnio fel bod dynol heb unrhyw gost i ymwelydd y wefan a dim gweithrediad gan berchennog y wefan. Mae'r nodweddion ychwanegol yn cynnwys chwyddo testun, geiriadur, cyfieithydd, Gwneuthurwr MP3 a chuddio sgrin. Eir at yr holl nodweddion a dewisiadau o far offer symudol, hawdd ei ddefnyddio.



I wybod rhagor ffoniwch Donna ar 028 9442 8105 neu anfon e-bost at d.thomson@browsealoud.com.

Footer

   Microsoft Certified Gold Partner Logo       Adobe Partner Logo       ISO9001 accredited Quality Management System      Facebook Logo      Twitter Logo      Go On Gold Logo